Mêts Maesllan 2: Seiclo

SKUMM2-SEI
ISBN9781783903917
Pwysau123g
Pris rheolaidd £2.99
Pris rheolaidd £2.99 Pris arbennig £2.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.
Ydych chi'n mwynhau seiclo? Mae'n Fis Cenedlaethol y Beic yn mis Mai, felly beth am fynd ati i ddysgu sut i ofalu am eich beic yn gywir, yn barod ar gyfer diwrnodau hyfryd yr haf pan fydd cyfle i fynd ar daith ar y beic? Dilynwch y cyfarwyddiadau yn y llyfr i ddysgu sut i baratoi eich beic yn gywir. Ydych chi'n adnabod rhai beicwyr enwog? Beth am Geraint Thomas - ydych chi'n ei gofio yn y crys melyn ym Mharis? Ewch ati i ymchwilio i fwy o wybodaeth am y beicwyr yma. Efallai taw chi fydd yn gwisgo'r crys melyn yna ryw ddiwrnod!

Mae'r gyfres boblogaidd Mêts Maesllan yn parhau gyda chyfres newydd o lyfrau. Mae'r gyfres ar gael i gynorthwyo dysgwyr ar Gamau Cynnydd 2, 3 a 4 sydd ag anawsterau dysgu penodol i feistroli llythrennedd yn y Gymraeg. Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar gamau seinegol ac ar batrymau iaith sy'n seiliedig ar 'O Gam i Gam' (Griffith, diweddarwyd gan Tomos a Jones, 2009) a'r 'Ffynhonnell Eirfaol' (Hughes, 1978).

Fel y gyfres gyntaf, mae'r llyfrau a'r gweithgareddau yn dilyn hynt, helynt a diddordebau criw o ffrindiau - Mim, Ben, Sam, a Wil (a Bob y ci) - sy'n byw ym mhentref Maesllan, ac sydd nawr yn 11 a 12 oed. Mae'r gyfres yn cynnwys pecyn o 32 o lyfrau trawsgwricwlaidd sy'n cynnwys llyfrau ffuglen, llyfrau ffeithiol ac ambell un ar ffurf mydr ac odl.

Mae'r llyfrau'n fyr i ddenu diddordeb y plant hynny sydd fel arfer yn amharod i ddarllen. Ceir gweithgareddau ar Hwb ar gyfer y gyfres sy'n cynnwys gweithgareddau digidol a phapur i gyd-fynd â phob llyfr er mwyn cadarnhau'r eirfa a'r patrymau iaith a gyflwynir.

Er mwyn cynnig parhad, ac estyniad ar y gyfres gyntaf, mae'r llyfrau a'r gweithgareddau wedi eu graddoli ar 4 lefel er mwyn datblygu sgiliau darllen, gyda phob un yn adeiladu ar y lefel flaenorol. Cychwynna'r gyfres hon ar lefel 2, a chyflwynir teitlau ar lefel 5 am y tro cyntaf.


Gwybodaeth ychwanegol

Adnoddau Cefnogol