Mêts Maesllan 2: Cadw ieir
SKU | MM2-CI |
---|---|
ISBN | 9781783903894 |
Pwysau | 123g |
Pris rheolaidd
£2.99
Pris rheolaidd
£2.99
Pris arbennig
£2.99
Pris fesul uned
fesul
Treth wedi'i chynnwys
Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Mae Wil eisiau cadw ieir, ond does ganddo ddim syniad sut i ofalu amdanyn nhw. Yn y llyfr hwn, mae Mim yn esbonio sut i gadw a gofalu am ieir. A fydd Wil yn llwyddo i berswadio'i fam, tybed? Mae ieir yn darparu cynnyrch arbennig - wyau, wrth gwrs! Dyma gynnyrch defnyddiol iawn sy'n gallu cael ei fwyta i frecwast, ei ddefnyddio i goginio cacennau, ei roi mewn brechdannau, a llawer mwy! Mae'n ddiwrnod Cenedlaethol yr Wyau ar y 3ydd o Fehefin ac yn Ddiwrnod Wyau'r Byd ym mis Hydref - beth am dynnu sylw'r dysgwyr at y diwrnodau hyn a dysgu sut i ofalu am y ieir er mwyn cael yr wy perffaith?
Mae'r gyfres boblogaidd Mêts Maesllan yn parhau gyda chyfres newydd o lyfrau. Mae'r gyfres ar gael i gynorthwyo dysgwyr ar Gamau Cynnydd 2, 3 a 4 sydd ag anawsterau dysgu penodol i feistroli llythrennedd yn y Gymraeg. Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar gamau seinegol ac ar batrymau iaith sy'n seiliedig ar 'O Gam i Gam' (Griffith, diweddarwyd gan Tomos a Jones, 2009) a'r 'Ffynhonnell Eirfaol' (Hughes, 1978).
Fel y gyfres gyntaf, mae'r llyfrau a'r gweithgareddau yn dilyn hynt, helynt a diddordebau criw o ffrindiau - Mim, Ben, Sam, a Wil (a Bob y ci) - sy'n byw ym mhentref Maesllan, ac sydd nawr yn 11 a 12 oed. Mae'r gyfres yn cynnwys pecyn o 32 o lyfrau trawsgwricwlaidd sy'n cynnwys llyfrau ffuglen, llyfrau ffeithiol ac ambell un ar ffurf mydr ac odl.
Mae'r llyfrau'n fyr i ddenu diddordeb y plant hynny sydd fel arfer yn amharod i ddarllen. Ceir gweithgareddau ar Hwb ar gyfer y gyfres sy'n cynnwys gweithgareddau digidol a phapur i gyd-fynd â phob llyfr er mwyn cadarnhau'r eirfa a'r patrymau iaith a gyflwynir.
Er mwyn cynnig parhad, ac estyniad ar y gyfres gyntaf, mae'r llyfrau a'r gweithgareddau wedi eu graddoli ar 4 lefel er mwyn datblygu sgiliau darllen, gyda phob un yn adeiladu ar y lefel flaenorol. Cychwynna'r gyfres hon ar lefel 2, a chyflwynir teitlau ar lefel 5 am y tro cyntaf.

