Addas i Gyfrwng Saesneg / Suitable for English MediumMêts Maesllan 2: Pryder Mim

SKUMM2-PM
ISBN9781783903887
Pwysau123g
Pris rheolaidd £2.99
Pris rheolaidd £2.99 Pris arbennig £2.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.
Mae Mim yn drist iawn ar ôl i'w cheffyl, Twm, farw. Dyma stori sy'n dangos sut gall ffrindiau helpu ei gilydd pan fydd rhywun yn drist neu'n ddi-hwyl. Mae'n anodd siarad am iechyd meddwl ond mae'n bwysig gwneud er mwyn rhannu'r broblem. Dyma lyfr addas i'w ddefnyddio yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl Plant o'r 3ydd i'r 9fed o Chwefror. Trafodwch ffyrdd gwahanol o rannu problemau a thrafod iechyd meddwl gyda'ch dysgwyr.

Mae'r gyfres boblogaidd Mêts Maesllan yn parhau gyda chyfres newydd o lyfrau. Mae'r gyfres ar gael i gynorthwyo dysgwyr ar Gamau Cynnydd 2, 3 a 4 sydd ag anawsterau dysgu penodol i feistroli llythrennedd yn y Gymraeg. Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar gamau seinegol ac ar batrymau iaith sy'n seiliedig ar 'O Gam i Gam' (Griffith, diweddarwyd gan Tomos a Jones, 2009) a'r 'Ffynhonnell Eirfaol' (Hughes, 1978).

Fel y gyfres gyntaf, mae'r llyfrau a'r gweithgareddau yn dilyn hynt, helynt a diddordebau criw o ffrindiau - Mim, Ben, Sam, a Wil (a Bob y ci) - sy'n byw ym mhentref Maesllan, ac sydd nawr yn 11 a 12 oed. Mae'r gyfres yn cynnwys pecyn o 32 o lyfrau trawsgwricwlaidd sy'n cynnwys llyfrau ffuglen, llyfrau ffeithiol ac ambell un ar ffurf mydr ac odl.

Mae'r llyfrau'n fyr i ddenu diddordeb y plant hynny sydd fel arfer yn amharod i ddarllen. Ceir gweithgareddau ar Hwb ar gyfer y gyfres sy'n cynnwys gweithgareddau digidol a phapur i gyd-fynd â phob llyfr er mwyn cadarnhau'r eirfa a'r patrymau iaith a gyflwynir.

Er mwyn cynnig parhad, ac estyniad ar y gyfres gyntaf, mae'r llyfrau a'r gweithgareddau wedi eu graddoli ar 4 lefel er mwyn datblygu sgiliau darllen, gyda phob un yn adeiladu ar y lefel flaenorol. Cychwynna'r gyfres hon ar lefel 2, a chyflwynir teitlau ar lefel 5 am y tro cyntaf.


Gwybodaeth ychwanegol

Maint (mm)210 x 148 x 5
Adnoddau Cefnogol