Mêts Maesllan 2: Prosiect y bad achub
| SKU | MM2-PYBA |
|---|---|
| ISBN | 9781783903856 |
| Pwysau | 123g |
Pris rheolaidd
£2.99
Pris rheolaidd
£2.99
Pris arbennig
£2.99
Pris fesul uned
fesul
Treth wedi'i chynnwys
Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Tasg gwaith cartref Wil ydy creu prosiect ar elusen. Mae Wil yn dewis edrych ar yr orsaf bad achub leol ac yn cyflwyno llawer o ffeithiau diddorol a gwybodaeth am yr orsaf a'r badau yn ei brosiect. Ble mae eich bad achub lleol chi? Beth am gymharu'r gwaith mae badau achub o gwmpas Cymru'n ei wneud? Maen nhw'n gwneud gwaith arbennig yn fisol ac mae'n bwysig i ni ddiolch iddyn nhw.
Mae'r gyfres boblogaidd Mêts Maesllan yn parhau gyda chyfres newydd o lyfrau. Mae'r gyfres ar gael i gynorthwyo dysgwyr ar Gamau Cynnydd 2, 3 a 4 sydd ag anawsterau dysgu penodol i feistroli llythrennedd yn y Gymraeg. Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar gamau seinegol ac ar batrymau iaith sy'n seiliedig ar 'O Gam i Gam' (Griffith, diweddarwyd gan Tomos a Jones, 2009) a'r 'Ffynhonnell Eirfaol' (Hughes, 1978).
Fel y gyfres gyntaf, mae'r llyfrau a'r gweithgareddau yn dilyn hynt, helynt a diddordebau criw o ffrindiau - Mim, Ben, Sam, a Wil (a Bob y ci) - sy'n byw ym mhentref Maesllan, ac sydd nawr yn 11 a 12 oed. Mae'r gyfres yn cynnwys pecyn o 32 o lyfrau trawsgwricwlaidd sy'n cynnwys llyfrau ffuglen, llyfrau ffeithiol ac ambell un ar ffurf mydr ac odl.
Mae'r llyfrau'n fyr i ddenu diddordeb y plant hynny sydd fel arfer yn amharod i ddarllen. Ceir gweithgareddau ar Hwb ar gyfer y gyfres sy'n cynnwys gweithgareddau digidol a phapur i gyd-fynd â phob llyfr er mwyn cadarnhau'r eirfa a'r patrymau iaith a gyflwynir.
Er mwyn cynnig parhad, ac estyniad ar y gyfres gyntaf, mae'r llyfrau a'r gweithgareddau wedi eu graddoli ar 4 lefel er mwyn datblygu sgiliau darllen, gyda phob un yn adeiladu ar y lefel flaenorol. Cychwynna'r gyfres hon ar lefel 2, a chyflwynir teitlau ar lefel 5 am y tro cyntaf.

