Dewch i Deithio - Pecyn Cyflawn
SKU | DIDPC |
---|---|
ISBN | 9781783903603 |
Pwysau | 2010g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Dyma gyfres o 10 llyfr darllen ffeithiol sy'n dilyn anturiaethau Min a Mei ar draws y byd wrth iddyn nhw gyflwyno diwylliannau ac ieithoedd gwahanol wledydd mewn modd deniadol, hudol a diddorol. Mae'r llyfrau yn addas i ddysgwyr sydd ar Gam Cynnydd 2. Dyma'r gyfres berffaith i roi cyfle i'r dysgwyr brofi diwylliannau gwahanol o'r ystafell ddosbarth.
Mae'r llyfrau yma yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu amrywiaeth o weithgareddau i gefnogi’r Chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn y dosbarth a thu allan, ac maen nhw’n addas ar gyfer gwaith annibynnol, gwaith grŵp, neu ar gyfer dosbarth cyfan. Beth am fynd ati i wneud prosiect dosbarth cyfan ar un o'r gwledydd yma? Cliciwch ar y ddolen yma i ddod o hyd i weithgareddau digidol ar yr holl lyfrau.
Llyfrau yn y gyfres:
- Brasil
- China
- Ffrainc
- Gwlad Pwyl
- India
- Kenya
- Nepal
- Norwy
- Patagonia
- Sbaen
