Dewch i Deithio - Kenya

SKUDIDK
ISBN9781783903535
Pwysau200g
Pris rheolaidd £4.99
Pris rheolaidd £4.99 Pris arbennig £4.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.


Dewch i Deithio gyda Min a Mei wrth iddyn nhw gyflwyno diwylliannau ac ieithoedd gwahanol wledydd mewn modd deniadol, hudol a diddorol. Mae'r llyfr yn addas i ddysgwyr ar Gam Cynnydd 2. Ydych chi'n dathlu Diwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol y Byd yn eich ysgol chi ar y 21ain o Fai? Dyma'r gyfres berffaith i roi cyfle i'r dysgwyr brofi diwylliannau gwahanol o'r ystafell ddosbarth.

Cliciwch yma i ymweld â'n gwefan 'Digwyddiadur' sy'n cynnwys llu o ddigwyddiadau cenedlaethol a byd-eang sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn a syniadau am lyfrau ac adnoddau sy'n cyd-fynd â nhw i gyfoethogi'r dysgu.

Mae Jamhuri yn ddathliad cenedlaethol yn Kenya sy'n digwydd ar y 12fed o Ragfyr yn flynyddol. Beth am gymharu amserlen Ysgol Gitonga gydag amserlen eich ysgol chi? Trafodwch gyda'ch grŵp i weld pa amserlen sydd well gyda chi. Ydych chi wedi bod i'r sw o'r blaen a gweld eliffantod a llewod? Roedd Min a Mei wrth eu boddau yn mynd ar saffari i weld Satao yr eliffant! Beth am gymharu dathliad traddodiadol y llwyth Maasai gydag un o'n gwyliau ni? Tybed i beth mae'n debyg?

Mae'r llyfr hwn yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu amrywiaeth o weithgareddau i gefnogi y Chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn y dosbarth a thu allan. Cliciwch ar y ddolen yma i ddod o hyd i weithgareddau digidol ar lyfr Kenya.