Dewch i Deithio - Brasil
SKU | DIDB |
---|---|
ISBN | 9781783903580 |
Pwysau | 200g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Dewch i Deithio gyda Min a Mei wrth iddyn nhw gyflwyno diwylliannau ac ieithoedd gwahanol wledydd mewn modd deniadol, hudol a diddorol. Mae'r llyfr yn addas i ddysgwyr ar Gam Cynnydd 2. Ydych chi'n dathlu Diwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol y Byd yn eich ysgol chi ar y 21ain o Fai? Dyma'r gyfres berffaith i roi cyfle i'r dysgwyr brofi diwylliannau gwahanol o'r ystafell ddosbarth.
Cliciwch yma i ymweld â'n gwefan 'Digwyddiadur' sy'n cynnwys llu o ddigwyddiadau cenedlaethol a byd-eang sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn a syniadau am lyfrau ac adnoddau sy'n cyd-fynd â nhw i gyfoethogi'r dysgu.
Mae gan Mei bêl-droed arbennig iawn sy'n rhoi'r cyfle i Min a Mei deithio i Frasil i ymweld â wahanol ardaloedd gan gynnwys yr Amason, traeth Copacabana a'r Sambadrome. Ydy’ch pêl chi yn codi i'r awyr ar ben ei hun? Oeddech chi'n gwybod fod yna gerflun 30 metr o uchder o Iesu Grist yn edrych i lawr dros ddinas Brasília?
Mae'r llyfr hwn yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu amrywiaeth o weithgareddau i gefnogi’r Chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn y dosbarth a thu allan. Cliciwch ar y ddolen yma i ddod o hyd i weithgareddau digidol ar lyfr Brasil. Ar ôl i chi gwblhau’r gweithgareddau fyddwch chi wedi atgyfnerthu eich sgiliau rhifedd drwy gymharu tymheredd, dysgu sut i gyfri i 10 yn Bortiwgaleg, gwneud dawns y Samba a llawer mwy!



