Dewch i Deithio - India
SKU | DIDI |
---|---|
ISBN | 9781783903573 |
Pwysau | 200g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Dewch i Deithio gyda Min a Mei wrth iddyn nhw gyflwyno diwylliannau ac ieithoedd gwahanol wledydd mewn modd deniadol, hudol a diddorol. Mae'r llyfr yn addas i ddysgwyr ar Gam Cynnydd 2. Ydych chi'n dathlu Diwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol y Byd yn eich ysgol chi ar y 21ain o Fai? Dyma'r gyfres berffaith i roi cyfle i'r dysgwyr brofi diwylliannau gwahanol o'r ystafell ddosbarth.
Cliciwch yma i ymweld â'n gwefan 'Digwyddiadur' sy'n cynnwys llu o ddigwyddiadau cenedlaethol a byd-eang sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn a syniadau am lyfrau ac adnoddau sy'n cyd-fynd â nhw i gyfoethogi'r dysgu.
Mae un o saith rhyfeddod y byd i'w gweld yn India, y Taj Mahal. Nid yw'n anarferol i weld gwartheg yn cerdded ar hyd y strydoedd drws nesaf i'r ceir a'r bysiau, tybed pam? Ydych chi'n gwybod beth mae Hindŵiaid yn gwneud cyn mynd i addoli mewn teml? Cafodd Min a Mei brofiad bythgofiadwy yn crwydro strydoedd India. Ewch ati i ddarllen y llyfr i ddysgu mwy am y wlad.
Mae'r llyfr hwn yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu amrywiaeth o weithgareddau i gefnogi’r Chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn y dosbarth a thu allan. Cliciwch ar y ddolen yma i ddod o hyd i weithgareddau digidol ar lyfr India.



