Dewch i Deithio - Ffrainc
SKU | DIDFF |
---|---|
ISBN | 9781783903566 |
Pwysau | 200g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Dewch i Deithio gyda Min a Mei wrth iddyn nhw gyflwyno diwylliannau ac ieithoedd gwahanol wledydd mewn modd deniadol, hudol a diddorol. Mae'r llyfr yn addas i ddysgwyr ar Gam Cynnydd 2. Ydych chi'n dathlu Diwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol y Byd yn eich ysgol chi ar y 21ain o Fai? Dyma'r gyfres berffaith i roi cyfle i'r dysgwyr brofi diwylliannau gwahanol o'r ystafell ddosbarth.
Cliciwch yma i ymweld â'n gwefan 'Digwyddiadur' sy'n cynnwys llu o ddigwyddiadau cenedlaethol a byd-eang sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn a syniadau am lyfrau ac adnoddau sy'n cyd-fynd â nhw i gyfoethogi'r dysgu.
Mae'n Ddiwrnod Bastille ar y 14eg o Orffennaf o bob blwyddyn. Mae’n ddiwrnod arbennig yn Ffrainc a ddathlwyd gyda gorymdaith mawreddog o flaen yr Arc de Triomphe, a sioe dân gwyllt i orffen y noson. Ydych chi wedi teithio i Ffrainc o'r blaen? Mae sawl ffordd o gyrraedd Ffrainc: ar long, mewn car, ar awyren, neu ar drên hyd yn oed! Ewch ar daith ar draws rhai ardaloedd o Ffrainc trwy ddychymyg hudol Min a Mei. Ewch i Baris, Toulouse, ac ewch ar ymweliad â Llydaw hefyd. Tybed ydy’r iaith Llydaweg yn debyg i’r Gymraeg? Beth am geisio cyfri i 10 yn Llydaweg?
Mae'r llyfr hwn yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu amrywiaeth o weithgareddau i gefnogi'r Chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn y dosbarth a thu allan. Cliciwch ar y ddolen yma i ddod o hyd i weithgareddau digidol ar lyfr Ffrainc.



