Dewch i Deithio - Patagonia

SKUDIDP
ISBN9781783903559
Pwysau200g
Pris rheolaidd £4.99
Pris rheolaidd £4.99 Pris arbennig £4.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Dewch i Deithio gyda Min a Mei wrth iddyn nhw gyflwyno diwylliannau ac ieithoedd gwahanol wledydd mewn modd deniadol, hudol a diddorol. Mae'r llyfr yn addas i ddysgwyr ar Gam Cynnydd 2. Ydych chi'n dathlu Diwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol y Byd yn eich ysgol chi ar y 21ain o Fai? Dyma'r gyfres berffaith i roi cyfle i'r dysgwyr brofi diwylliannau gwahanol o'r ystafell ddosbarth.

Cliciwch yma i ymweld â'n gwefan 'Digwyddiadur' sy'n cynnwys llu o ddigwyddiadau cenedlaethol a byd-eang sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn a syniadau am lyfrau ac adnoddau sy'n cyd-fynd â nhw i gyfoethogi'r dysgu.

Mae yna ddau ddyddiad pwysig iawn sydd angen i ni gofio amdano wrth astudio Patagonia. Cofio'r Mimosa yn Gadael Lerpwl ar yr 28ain o Fai yn flynyddol, a Gŵyl y Glaniad, diwrnod cyrhaeddodd y Cymry Patagonia am y tro cyntaf, sef yr 28ain o Orffennaf. Mae yna gysylltiadau cryf rhwng Cymru a Phatagonia gyda'r iaith Gymraeg yn un ohonynt. Darllenwch y llyfr yma i weld taith Min a Mei ar hyd y Wladfa gan ddechrau ym Mhorth Madryn. Ewch ati i gymharu'r ddwy wlad. Defnyddiwch y lluniau yn y llyfr er mwyn cymharu tirwedd, anifeiliaid a bwyd.

Mae'r llyfr hwn yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu amrywiaeth o weithgareddau i gefnogi y Chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn y dosbarth a thu allan. Cliciwch ar y ddolen yma i ddod o hyd i weithgareddau digidol ar lyfr Patagonia.