Dewch i Deithio - Gwlad Pwyl

SKUDIDGP
ISBN9781783903542
Pwysau200g
Pris rheolaidd £4.99
Pris rheolaidd £4.99 Pris arbennig £4.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Dewch i Deithio gyda Min a Mei wrth iddyn nhw gyflwyno diwylliannau ac ieithoedd gwahanol wledydd mewn modd deniadol, hudol a diddorol. Mae'r llyfr yn addas i ddysgwyr ar Gam Cynnydd 2. Ydych chi'n dathlu Diwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol y Byd yn eich ysgol chi ar y 21ain o Fai? Dyma'r gyfres berffaith i roi cyfle i'r dysgwyr brofi diwylliannau gwahanol o'r ystafell ddosbarth.

Cliciwch yma i ymweld â'n gwefan 'Digwyddiadur' sy'n cynnwys llu o ddigwyddiadau cenedlaethol a byd-eang sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn a syniadau am lyfrau ac adnoddau sy'n cyd-fynd â nhw i gyfoethogi'r dysgu.

Mae Gwlad Pwyl yn dathlu diwrnod ei Annibyniaeth ar yr 11eg o Dachwedd yn flynyddol. Dyma’r llyfr perffaith i ddysgu mwy am y wlad sy’n gartref i gastell mwyaf y byd. Ewch ar ymweliad i brifddinas y wlad, Warsaw, a dysgwch am yr eryr gwyn, symbol cenedlaethol y wlad sydd i'w gweld fel cerfluniau ar draws y wlad, ac ar ddarnau arian!

Mae'r llyfr hwn yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu amrywiaeth o weithgareddau i gefnogi’r Chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn y dosbarth a thu allan. Cliciwch ar y ddolen yma i ddod o hyd i weithgareddau digidol ar lyfr Gwlad Pwyl. Beth am fynd ati i goginio a blasu pizza Pierogi gan ddilyn y rysáit ar y wefan? Neu beth am greu wyau lliwgar yn barod ar gyfer y Pasg?