Dewch i Deithio - Nepal

SKUDIDNE
ISBN9781783903535
Pwysau200g
Pris rheolaidd £4.99
Pris rheolaidd £4.99 Pris arbennig £4.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Dewch i Deithio gyda Min a Mei wrth iddyn nhw gyflwyno diwylliannau ac ieithoedd gwahanol wledydd mewn modd deniadol, hudol a diddorol. Mae'r llyfr yn addas i ddysgwyr ar Gam Cynnydd 2. Ydych chi'n dathlu Diwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol y Byd yn eich ysgol chi ar y 21ain o Fai? Dyma'r gyfres berffaith i roi cyfle i'r dysgwyr brofi diwylliannau gwahanol o'r ystafell ddosbarth.

Cliciwch yma i ymweld â'n gwefan 'Digwyddiadur' sy'n cynnwys llu o ddigwyddiadau cenedlaethol a byd-eang sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn a syniadau am lyfrau ac adnoddau sy'n cyd-fynd â nhw i gyfoethogi'r dysgu.

Tybed beth yw gêm genedlaethol Nepal? Gallwch chi ddyfalu? Yn y llyfr hwn cewch gwrdd â Bibek, a dysgu mwy am Nepal ac am fynydd Everest. Gallwch chi enwi rhai o fynyddoedd poblogaidd Cymru? Ewch ati i greu Masala Chai gan ddilyn y rysáit yn y llyfr, debyg i de ond gyda sbeisys amrywiol. Oes well gyda chi de arferol neu'r Masala Chai?

 Mae'r llyfr hwn yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu amrywiaeth o weithgareddau i gefnogi y Chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn y dosbarth a thu allan. Cliciwch ar y ddolen yma i ddod o hyd i weithgareddau digidol ar lyfr Nepal.