Dewch i Deithio - Sbaen

SKUDIDS
ISBN9781783902439
Pwysau200g
Pris rheolaidd £4.99
Pris rheolaidd £4.99 Pris arbennig £4.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Dewch i Deithio gyda Min a Mei wrth iddyn nhw gyflwyno diwylliannau ac ieithoedd gwahanol wledydd mewn modd deniadol, hudol a diddorol. Mae'r llyfr yn addas i ddysgwyr ar Gam Cynnydd 2. Ydych chi'n dathlu Diwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol y Byd yn eich ysgol chi ar y 21ain o Fai? Dyma'r gyfres berffaith i roi cyfle i'r dysgwyr brofi diwylliannau gwahanol o'r ystafell ddosbarth.

Cliciwch yma i ymweld â'n gwefan 'Digwyddiadur' sy'n cynnwys llu o ddigwyddiadau cenedlaethol a byd-eang sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn a syniadau am lyfrau ac adnoddau sy'n cyd-fynd â nhw i gyfoethogi'r dysgu.

Oeddech chi'n gwybod fod yr eglwys gadeiriol 'La Sagrada Família' wedi cymryd dros 100 mlynedd i'w adeiladu, mae’r adeilad dal heb ei orffen? Beth am fynd ati i greu darluniau mosaig tebyg i waith Antoni Gaudí, sydd i’w weld ym Mharc Güell, gan ddefnyddio deunyddiau amrywiol? Mae'r Ŵyl Tomatina yn ŵyl boblogaidd iawn yn Sbaen, ond mae un sy’n gadael tipyn o waith glanhau i'r gweithwyr ar y stryd!

Mae'r llyfr hwn yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu amrywiaeth o weithgareddau i gefnogi y Chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn y dosbarth a thu allan. Cliciwch ar y ddolen yma i ddod o hyd i weithgareddau digidol ar lyfr Sbaen.