Dewch i Deithio - Norwy
SKU | DIDNO |
---|---|
ISBN | 9781783902422 |
Pwysau | 200g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Dewch i Deithio gyda Min a Mei wrth iddyn nhw gyflwyno diwylliannau ac ieithoedd gwahanol wledydd mewn modd deniadol, hudol a diddorol. Mae'r llyfr yn addas i ddysgwyr ar Gam Cynnydd 2. Ydych chi'n dathlu Diwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol y Byd yn eich ysgol chi ar y 21ain o Fai? Dyma'r gyfres berffaith i roi cyfle i'r dysgwyr brofi diwylliannau gwahanol o'r ystafell ddosbarth.
Cliciwch yma i ymweld â'n gwefan 'Digwyddiadur' sy'n cynnwys llu o ddigwyddiadau cenedlaethol a byd-eang sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn a syniadau am lyfrau ac adnoddau sy'n cyd-fynd â nhw i gyfoethogi'r dysgu.
Oeddech chi'n gwybod bod hi'n ddiwrnod Cenedlaethol Norwy ar y 17eg o Fai? Beth am ymuno â Min a Mei wrth iddyn nhw ddysgu mwy am Norwy: y wlad, yr iaith, a'i ddiwylliant. Oeddech chi'n gwybod bod yna gysylltiad rhwng Norwy a Chaerdydd? Beth ydych chi'n meddwl o'r Fjord? Am le hardd! Tybed beth roedd Mei wedi enwi'r ci yn dilyn ei daith ddychmygus i Norwy?
Mae'r llyfr hwn yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu amrywiaeth o weithgareddau i gefnogi y Chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn y dosbarth a thu allan. Cliciwch ar y ddolen yma i ddod o hyd i weithgareddau digidol ar lyfr Norwy.



