Tric a Chlic - Cynllun Cyflawn (fersiwn ysgolion cyfrwng Saesneg)
SKU | TACEMC |
---|---|
ISBN | 9781783902378 |
Pwysau | 20460g |
Yn sgil datblygiad Cwricwlwm i Gymru 2022, a chyfraniad y cwricwlwm hwn i nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rydym wedi datblygu addasiad arbennig o Tric a Chlic ar gyfer ysgolion cyfrwng Saesneg, er mwyn eu cynorthwyo i gyflwyno'r Gymraeg yn llwyddiannus yn eu hysgolion.
Mae plant mewn ysgolion lle nad yw'r Cymraeg yn iaith gyntaf yn gweithredu rhaglen ffoneg synthetig, yn barod, trwy gyfrwng y Saesneg. Cynllun yw sy'n dilyn strwythur pendant mewn ffordd systematig, cyflym a chyffrous.
Yn sgîl hyn, daw'r plant i adnabod sain a ffurf llythrennau gan symud gam ymhellach i ddysgu strategaethau cyfuno i ddarllen a rhannu geiriau wrth sillafu. Oherwydd bod eu strategaethau darllen cynnar yn gryf yn y famiaith, mae'n broses naturiol i adeiladu ar eu gwybodaeth gan gyflwyno cynllun, sy'n dilyn yr un broses ond yn yr iaith Gymraeg. Wrth ddefnyddio eu gwybodaeth flaenorol fe ddaw'r plant i ddarllen a sillafu yn y Gymraeg wrth ddefnyddio cynllun newydd 'Tric a Chlic'.
Y cwestiwn sy'n codi yn dilyn y broses o ddarllen yw: 'Ydy'r plant yn deall yr hyn a ddarllenir?' Mewn ymateb i'r cwestiwn lluniwyd cyfres o gwestiynau dwyieithog, wedi'u graddoli, er budd yr athrawon, gan annog y plant i bori drwy'r cliwiau yn y llyfr. Hefyd ychwanegwyd gemau addas a chaneuon pwrpasol i atgyfnerthu yr hyn a addysgwyd. Bydd ap Tric a Chlic o fudd, eto i atgyfnerthu mewn ffordd gyffrous gan ddefnyddio technoleg fodern.
Tric a Chlic
- Adeiladu ar wybodaeth y plant.
- Wedi ei dreialu mewn ysgolion.
- Yn hwyl gan ddefnyddio'r synhwyrau.
- Yn adnodd parod i'w ddefnyddio.
- Annog plant i siarad, darllen, trafod, sillafu ac ysgrifennu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Y pecyn yma'n cynnwys:
Cam 1
- 26 llyfrau - 6 o bob un
- 128 cardiau A5
- 20 stribedi darllen A4 i'w dorri
- 21 A4 cardiau gêm
Cam 2
- 7 llyfrau - 6 o bob un
- 78 cardiau A5
- 20 stribedi darllen A4 i'w dorri
- 46 cardiau adolygu A5 o Gam 1
- 11 A4 cardiau gêm
Cam 3
- 10 llyfrau - 6 o bob un
- 163 cardiau A5
- 34 stribedi darllen A4 i'w dorri
- 14 A4 cardiau gêm