Cyfres Cnoi Cil
SKU | CCC |
---|---|
ISBN | 9781783902323 |
Pwysau | 2800g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Dyma gyfres o 6 llyfr sy'n addas ar gyfer darllen cilyddol neu ddarllen tîm. Cewch 5 gopi o bob llyfr a set o gardiau chwarae rôl ym mhob pecyn. Mae'r cardiau yn cynnwys Y Rhagfynegwr, Yr Arweinydd, Yr Esboniwr, Y Cwestiynwr a'r Crynhöwr.
Mae'n bwysig darparu amrywiaeth o ddulliau addysgu i ddatblygu medrau darllen disgyblion gan gynnwys darllen cilyddol. Bydd y dysgwyr yn gweithio fel tîm i ymarfer sgiliau cipddarllen a llithrddarllen, cwestiynu a hunanholi, gwneud casgliadau a phennu pwysigrwydd y wybodaeth. Mae'r llyfrau wedi rhannu i bum thema, gall pob thema fod yn destun un wers neu'n weithgaredd darllen wythnosol.
Oeddech chi'n ymwybodol fod ein chwaer Canolfan, Rhagoriaith yn darparu hyfforddiant darllen? Cysylltwch gyda rhagoriaith@pcydds.ac.uk i drefnu hyfforddiant ar gyfer eich gweithle chi.
Teitlau'r Llyfrau:
Paul Robeson;
Rali Cymru GB
Cymru a'r Bêl Gron
Y Royal Charter
Pleidiol Wyf i'm Gwlad
Bai ar Gam
