Gofal Gofal
SKU | AAYDGG |
---|---|
ISBN | 9781783902316 |
Pwysau | 160g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Mae'n fis byd-eang Cerdded i'r Ysgol ym mis Hydref, sydd yn gyfle arbennig i adolygu ac atgoffa eich dysgwyr o sut i fod yn ofalus ar y ffyrdd. Ydy eich dysgwyr chi yn gwybod sut i groesi'r ffordd yn ddiogel? Wrth ddilyn un arall o anturiaethau Betsan, Roco, a Zee, byddwch chi'n dysgu sut i groesi’r ffordd yn gyfrifol, ac yn ddiogel. Oeddech chi'n gwybod fod hi'n fis Diogelwch Cenedlaethol yn mis Mehefin hefyd? Ac yn Wythnos Diogelwch Ar y Ffordd rhwng y 18fed a 25ain o Dachwedd? Mae sawl cyfle gwahanol ar gael i ddefnyddio'r llyfr hwn er mwyn rhoi'r hyder i'ch dysgwyr i goresi'r ffordd yn ddiogel!
Cliciwch yma i ymweld â'n gwefan Digwyddiadur sy'n cynnwys llu o ddigwyddiadau cenedlaethol a byd-eang sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn a syniadau am lyfrau ac adnoddau sydd gyda ni i gyd-fynd gyda'r thema i gyfoethogi'r dysgu.
Mae 'Gofal Gofal' yn rhan o gyfres Archwilio’r Amgylchedd yn y dref: Cyfres 2. Cyfresi sy'n dilyn anturiaethau Betsan a Roco wrth iddyn nhw archwilio'r dref yw Archwilio’r Amgylchedd yn y dref. Mae Cyfres 2 yn cynnwys 8 stori neu gerdd gwreiddiol i blant ar Gam Cynnydd 2. Eu nod yw cefnogi gwahanol feysydd dysgu a phrofiad gan ganolbwyntio ar archwilio a darganfod yn yr awyr agored.
Mae'r llyfrau'n cynnig cyfle i godi chwilfrydedd y plant ynghylch eu hamgylchedd yn ogystal â'u hannog i fwynhau drwy archwilio, ymholi, arbrofi, gofyn cwestiynau a cheisio dod o hyd i atebion. Cyfres yw hon sy'n datblygu cyfleoedd i'r plant ddarllen a mynegi eu syniadau, eu safbwyntiau a'u teimladau gan ddangos dychymyg, creadigrwydd a sensitifrwydd tuag at eu hamgylchedd. Os prynwch chi’r gyfres gyflawn, cewch 6 cerdyn her ar gyfer pob llyfr sy'n cynnwys heriau amrywiol y gallech eu defnyddio er mwyn cefnogi'r dysgu ymhellach, gan ddarparu cyfle i ddysgwyr i atgyfnerthu’r sgiliau maent wedi dysgu.

