Deffro Roco
SKU | AAyDDR |
---|---|
ISBN | 9781783902309 |
Pwysau | 160g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Ydych chi fel Roco ac yn hoffi cysgu ar fore Sadwrn? Neu ydych chi fel Dewi ac yn edrych ymlaen at grwydro? Beth am i chi wneud ychydig o ymarfer corff i weld beth allwch chi ei weld, ei arogli, ei flasu a'i gyffwrdd? Mae'n bwysig adnabod eich synhwyrau, mae'n dod â'r byd yn fyw i chi! Mae Roco yn falch iawn fod Dewi wedi ei ddeffro yn y bore er mwyn iddo glywed y dref yn deffro, ond tybed pa synau glywsant? Darllenwch y stori i ddysgu mwy!
Mae 'Deffro Roco' yn rhan o gyfres Archwilio’r Amgylchedd yn y dref: Cyfres 2. Cyfresi sy'n dilyn anturiaethau Betsan a Roco wrth iddyn nhw archwilio'r dref yw Archwilio’r Amgylchedd yn y dref . Mae Cyfres 2 yn cynnwys 8 stori neu gerdd gwreiddiol i blant ar Gam Cynnydd 2. Eu nod yw cefnogi gwahanol feysydd dysgu a phrofiad gan ganolbwyntio ar archwilio a darganfod yn yr awyr agored.
Mae'r llyfrau'n cynnig cyfle i godi chwilfrydedd y plant ynghylch eu hamgylchedd yn ogystal â'u hannog i fwynhau drwy archwilio, ymholi, arbrofi, gofyn cwestiynau a cheisio dod o hyd i atebion. Cyfres yw hon sy'n datblygu cyfleoedd i'r plant ddarllen a mynegi eu syniadau, eu safbwyntiau a'u teimladau gan ddangos dychymyg, creadigrwydd a sensitifrwydd tuag at eu hamgylchedd. Os prynwch chi’r gyfres gyflawn, cewch 6 cerdyn her ar gyfer pob llyfr sy'n cynnwys heriau amrywiol y gallech eu defnyddio er mwyn cefnogi'r dysgu ymhellach, gan ddarparu cyfle i ddysgwyr i atgyfnerthu’r sgiliau maent wedi dysgu.

