Teithio

SKUAAyDT
ISBN9781783902293
Pwysau160g
Pris rheolaidd £3.99
Pris rheolaidd £3.99 Pris arbennig £3.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Dilynwch Betsan ar ei hanturiaethau drwy'r dre, sawl ffordd wahanol o deithio mae hi'n defnyddio? Beth yw eich hoff ffordd o deithio i'r dre? Mae'n ddiwrnod Twristiaeth Cenedlaethol ar y 7fed o Fai, beth am gymharu ffyrdd gwahanol o deithio o wlad i wlad ar draws y byd? Pa mor hawdd yw hi i deithio o un pentref i'r pentref nesa? Ydych ffyrdd chi o deithio yn rhai ecogyfeillgar? Cofiwch helpu Cymru i leihau ei hôl troed carbon.

Cliciwch yma i ymweld â'n gwefan Digwyddiadur sy'n cynnwys llu o ddigwyddiadau cenedlaethol a byd-eang sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn a syniadau am lyfrau ac adnoddau sydd gyda ni i gyd-fynd gyda'r thema i gyfoethogi'r dysgu.

Mae ‘Teithio’ yn rhan o gyfres Archwilio'r Amgylchedd yn y dref: Cyfres 1. Cyfresi sy'n dilyn anturiaethau Betsan a Roco wrth iddyn nhw archwilio'r dref yw Archwilio’r Amgylchedd yn y dref. Mae Cyfres 1 yn cynnwys 8 stori neu gerdd wreiddiol i blant ar Gamau Cynnydd 1 a 2. Eu nod yw cefnogi gwahanol feysydd dysgu a phrofiad gan ganolbwyntio ar archwilio a darganfod yn yr awyr agored.

Mae'r llyfrau'n cynnig cyfle i godi chwilfrydedd y plant ynghylch eu hamgylchedd yn ogystal â'u hannog i fwynhau drwy archwilio, ymholi, arbrofi, gofyn cwestiynau a cheisio dod o hyd i atebion. Cyfres yw hon sy'n datblygu cyfleoedd i'r plant ddarllen a mynegi eu syniadau, eu safbwyntiau a'u teimladau gan ddangos dychymyg, creadigrwydd a sensitifrwydd tuag at eu hamgylchedd. Os prynwch chi’r gyfres gyflawn, cewch 6 cerdyn her ar gyfer pob llyfr sy'n cynnwys heriau amrywiol y gallech eu defnyddio er mwyn cefnogi'r dysgu ymhellach, gan ddarparu cyfle i ddysgwyr i atgyfnerthu’r sgiliau maent wedi dysgu.