Rwy'n gweld â'm llygad bach i...

SKUAAyDRGALl
ISBN9781783902255
Pwysau160g
Pris rheolaidd £3.99
Pris rheolaidd £3.99 Pris arbennig £3.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Rwy'n gweld â'm llygad bach i, rhywbeth yn dechrau gyda...dyma gêm adnabyddus iawn, beth am chwarae gyda'ch dysgwyr chi i ddatblygu eu hyder i ddefnyddio geiriau newydd? Tybed beth mae Betsan yn gweld? Ydy ei mam wedi dyfalu yn gywir? Beth am fynd y tu allan ar y iard, neu am dro i'r goedwig i weld os allwch chi ddod o hyd i'r adar amrywiol yma? Maen nhw'n bob lliw a llun, a meintiau gwahanol, a phob un â phig bach unigryw iddyn nhw!

Mae ‘Rwy'n gweld â'm llygad bach i...’ yn rhan o gyfres Archwilio'r Amgylchedd yn y dref: Cyfres 1. Cyfresi sy'n dilyn anturiaethau Betsan a Roco wrth iddyn nhw archwilio'r dref yw Archwilio’r Amgylchedd yn y dref. Mae Cyfres 1 yn cynnwys 8 stori neu gerdd wreiddiol i blant ar Gamau Cynnydd 1 a 2. Eu nod yw cefnogi gwahanol feysydd dysgu a phrofiad gan ganolbwyntio ar archwilio a darganfod yn yr awyr agored.

Mae'r llyfrau'n cynnig cyfle i godi chwilfrydedd y plant ynghylch eu hamgylchedd yn ogystal â'u hannog i fwynhau drwy archwilio, ymholi, arbrofi, gofyn cwestiynau a cheisio dod o hyd i atebion. Cyfres yw hon sy'n datblygu cyfleoedd i'r plant ddarllen a mynegi eu syniadau, eu safbwyntiau a'u teimladau gan ddangos dychymyg, creadigrwydd a sensitifrwydd tuag at eu hamgylchedd. Os prynwch chi’r gyfres gyflawn, cewch 6 cerdyn her ar gyfer pob llyfr sy'n cynnwys heriau amrywiol y gallech eu defnyddio er mwyn cefnogi'r dysgu ymhellach, gan ddarparu cyfle i ddysgwyr i atgyfnerthu’r sgiliau maent wedi dysgu.