Lliwiau
SKU | AAyDLl |
---|---|
ISBN | 9781783902224 |
Pwysau | 160g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Coch, melyn, pinc, gwyrdd, porffor, oren, glas... Mae lliwiau'r enfys yn hyfryd! Beth yw eich hoff liw? Mae Roco wedi cael agoriad llygad yn edrych drwy'r ysbienddrych a gweld pa mor lliwgar yw'r dref! Beth am i chi fynd o gwmpas yr ysgol neu'r parc i weld y lliwiau gwahanol? Sawl lliw gwahanol allwch chi weld? Ai lliwiau llachar ydyn nhw?
Mae Lliwiau yn rhan o gyfres Archwilio'r Amgylchedd yn y dref: Cyfres 1. Cyfresi sy'n dilyn anturiaethau Betsan a Roco wrth iddyn nhw archwilio'r dref yw Archwilio’r Amgylchedd yn y dref. Mae Cyfres 1 yn cynnwys 8 stori neu gerdd wreiddiol i blant ar Gamau Cynnydd 1 a 2. Eu nod yw cefnogi gwahanol feysydd dysgu a phrofiad gan ganolbwyntio ar archwilio a darganfod yn yr awyr agored.
Mae'r llyfrau'n cynnig cyfle i godi chwilfrydedd y plant ynghylch eu hamgylchedd yn ogystal â'u hannog i fwynhau drwy archwilio, ymholi, arbrofi, gofyn cwestiynau a cheisio dod o hyd i atebion. Cyfres yw hon sy'n datblygu cyfleoedd i'r plant ddarllen a mynegi eu syniadau, eu safbwyntiau a'u teimladau gan ddangos dychymyg, creadigrwydd a sensitifrwydd tuag at eu hamgylchedd. Os prynwch chi’r gyfres gyflawn, cewch 6 cerdyn her ar gyfer pob llyfr sy'n cynnwys heriau amrywiol y gallech eu defnyddio er mwyn cefnogi'r dysgu ymhellach, gan ddarparu cyfle i ddysgwyr i atgyfnerthu’r sgiliau maent wedi dysgu.

