Dyddiadur Betsan
SKU | AAYDDB |
---|---|
ISBN | 9781783902217 |
Pwysau | 160g |
Ar ei gwyliau gyda Roco yn y dref mae Betsan, ac mae hi wedi penderfynu cadw dyddiadur o'i helyntion. Beth sydd yn rhyfedd am ddyddiad dydd Sadwrn?
Mae Dyddiadur Betsan yn rhan o gyfres Archwlio'r Amgylchedd yn y dref - Cyfres 2. Cyfres yw hon sy'n dilyn anturiaethau Betsan a Roco wrth iddyn nhw archwilio'r dref. Dyma gyflwyno Cyfres 2, sef 8 o straeon a cherddi gwreiddiol i blant yn y Cyfnod Sylfaen. Eu nod yw cefnogi gwahanol feysydd dysgu a phrofiad gan ganolbwyntio ar archwilio a darganfod yn yr awyr agored.
Mae'r llyfrau'n cynnig cyfle i godi chwilfrydedd y plant ynghylch eu hamgylchedd yn ogystal â'u hannog i fwynhau drwy archwilio, ymholi, arbrofi, gofyn cwestiynau a cheisio dod o hyd i atebion. Cyfres yw hon sy'n datblygu cyfleoedd i'r plant ddarllen a mynegi eu syniadau, eu safbwyntiau a'u teimladau gan ddangos dychymyg, creadigrwydd a sensitifrwydd tuag at eu hamgylchedd.