Cnoi Cil: Y Royal Charter

SKUCCRCH
ISBN9781783902125
Pwysau500g
Pris rheolaidd £5.00
Pris rheolaidd £9.99 Pris arbennig £5.00
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Roedd Hydref 26ain 1859 yn ddiwrnod a newidiodd pentref bach Moelfre am byth. Tybed a wyddoch chi am hanes y llong stêm a aeth i drafferthion mewn storm fawr oddi ar arfordir gogledd Ynys Môn? Beth oedd y cargo? Sut gafodd y trigolion lleol eu trin gan newyddiadurwyr Llundain? Beth oedd rhan Charles Dickens yn y stori? Cewch atebion i'r cwestiynau yma a mwy wrth ddarllen a thrafod y llyfr hwn.

Dyma gyfres o 6 llyfr sy'n addas ar gyfer darllen cilyddol neu ddarllen tîm. Cewch 5 gopi o'r llyfr a set o gardiau chwarae rôl ym mhob pecyn. Mae'r cardiau yn cynnwys Y Rhagfynegwr, Yr Arweinydd, Yr Esboniwr, Y Cwestiynwr a'r Crynhowr.

Mae'n bwysig darparu amrywiaeth o ddulliau addysgu i ddatblygu medrau darllen disgyblion gan gynnwys darllen cilyddol. Bydd y dysgwyr yn gweithio fel tîm i ymarfer sgiliau cipddarllen a llithrddarllen, cwestiynu a hunanholi, gwneud casgliadau a phennu pwysigrwydd y wybodaeth. Mae'r llyfrau wedi rhannu i bum thema, gall pob thema fod yn destun un wers neu'n weithgaredd darllen wythnosol. Dyma'r themau ar gyfer y llyfr Y Royal Charter: Hanes y Llong, Trasiedi ar Arfordir Ynys Môn, Dewrder Dynion Moelfre, Wedi'r Digwyddiad, Moelfre Ddoe a Heddiw a Dweud dy Ddweud.

Oeddech chi'n ymwybodol fod ein chwaer Canolfan, Rhagoriaith yn darparu hyfforddiant darllen? Cysylltwch gyda rhagoriaith@pcydds.ac.uk i drefnu hyfforddiant ar gyfer eich gweithle chi.