Cnoi Cil: Cymru a'r Bêl Gron

SKUCCCBG
ISBN9781783902118
Pwysau500g
Pris rheolaidd £5.00
Pris rheolaidd £9.99 Pris arbennig £5.00
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Ydych chi'n gwybod pryd ddechreuodd y gêm bêl-droed? Mae yna dystiolaeth fod gêm tebyg wedi cael ei chwarae mewn sawl gwlad flynyddoedd maith yn ôl! Pryd sefydlwyd Cymdeithas Bêl-droed Cymru a beth oedd y broses o'i sefydlu? Mae'r gêm wedi datblygu tipyn dros y blynyddoedd diwethaf gydag uchafbwynt arbennig yn 2016. Ydych chi'n adnabod rhai o chwaraewyr disglair y tîm pêl-droed hwnnw? Cewch atebion i'r cwestiynau yma a mwy wrth ddarllen a thrafod y llyfr hwn.

Dyma gyfres o 6 llyfr sy'n addas ar gyfer darllen cilyddol neu ddarllen tîm. Cewch 5 gopi o'r llyfr a set o gardiau chwarae rôl ym mhob pecyn. Mae'r cardiau yn cynnwys Y Rhagfynegwr, Yr Arweinydd, Yr Esboniwr, Y Cwestiynwr a'r Crynhöwr.

Mae darparu amrywiaeth o ddulliau addysgu i ddatblygu medrau darllen disgyblion gan gynnwys darllen cilyddol yn greiddiol i ofynion Cwricwlwm i Gymru. Bydd y dysgwyr yn gweithio fel tîm i ymarfer sgiliau cipddarllen a llithrddarllen, cwestiynu a hunanholi, gwneud casgliadau a phennu pwysigrwydd yr wybodaeth. Mae'r llyfrau wedi rhannu i bum thema, gall pob thema fod yn destun un wers neu'n weithgaredd darllen wythnosol. Dyma'r themâu ar gyfer llyfr Cymru a'r Bêl Gron: Hanes y Gêm, Sefydlu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Clybiau Cymru, Chwaraewyr Disglair, Ewro 2016 a Dweud dy Ddweud.

 Oeddech chi'n ymwybodol bod ein chwaer Ganolfan, Rhagoriaith yn darparu hyfforddiant ar ddatblygu sgiliau darllen? Cysylltwch â rhagoriaith@pcydds.ac.uk i dderbyn mwy o wybodaeth, neu i drefnu hyfforddiant ar gyfer eich gweithle chi.