Cnoi Cil: Rali Cymru
SKU | CCRC |
---|---|
ISBN | 9781783902101 |
Pwysau | 500g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Roedd Rali Cymru GB yn ddigwyddiad rhyngwladol oedd yn mynd â'r gyrwyr enwocaf yn y byd drwy goedwigoedd Eryri, Sir Ddinbych a chanolbarth Cymru. Roedd gan bob gyrrwr Rali gar arbennig oedd yn addas iddyn nhw. Tybed beth yw ffefryn y Cymro Elfyn Evans? Ni fydd unrhyw Rali yn bosibl heb gymorth y marsialiaid, mae ei gwaith yn amhrisiadwy. Cewch atebion i'r cwestiynau yma a mwy wrth ddarllen a thrafod y llyfr hwn.
Dyma gyfres o 6 llyfr sy'n addas ar gyfer darllen cilyddol neu ddarllen tîm. Cewch 5 gopi o'r llyfr a set o gardiau chwarae rôl ym mhob pecyn. Mae'r cardiau yn cynnwys Y Rhagfynegwr, Yr Arweinydd, Yr Esboniwr, Y Cwestiynwr a'r Crynhowr.
Mae'n bwysig darparu amrywiaeth o ddulliau addysgu i ddatblygu medrau darllen disgyblion gan gynnwys darllen cilyddol. Bydd y dysgwyr yn gweithio fel tîm i ymarfer sgiliau cipddarllen a llithrddarllen, cwestiynu a hunanholi, gwneud casgliadau a phennu pwysigrwydd y wybodaeth. Mae'r llyfrau wedi rhannu i bum thema, gall pob thema fod yn destun un wers neu'n weithgaredd darllen wythnosol. Dyma'r themau ar gyfer y llyfr Rali Cymru GB: Y Rali, Llwybrau'r Rali, Pencampwyr a'u Ceir, Cefnogwyr, Arwyr Gweithgar a Dweud dy Ddweud.
Oeddech chi'n ymwybodol fod ein chwaer Canolfan, Rhagoriaith yn darparu hyfforddiant darllen? Cysylltwch gyda rhagoriaith@pcydds.ac.uk i drefnu hyfforddiant ar gyfer eich gweithle chi.



