Cnoi Cil: Paul Robeson

SKUCCPR
ISBN9781783902095
Pwysau500g
Pris rheolaidd £5.00
Pris rheolaidd £9.99 Pris arbennig £5.00
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Roedd Eisteddfod y Glowyr 1957 yn ddigwyddiad cyffrous iawn yn hanes tref glan môr boblogaidd Porthcawl. A wyddoch chi am hanes canwr, actor ac athletwr enwog iawn o America oedd i fod i ganu yno? Pwy oedd y gŵr enwog hwn, a beth oedd ei hanes? A lwyddodd pobl Porthcawl i glywed llais rhyfeddol y canwr enwog? Tyfodd perthynas Paul Robeson a Chymru yn ystod 1929, ond tybed pam? Cewch atebion i'r cwestiynau yma a mwy wrth ddarllen a thrafod y llyfr hwn. 

Beth am ddefnyddio'r llyfr yma mis Hydref i ddathlu mis Hanes Pobl Ddu? 

Dyma gyfres o 6 llyfr sy'n addas ar gyfer darllen cilyddol neu ddarllen tîm. Cewch 5 gopi o'r llyfr a set o gardiau chwarae rôl ym mhob pecyn. Mae'r cardiau yn cynnwys Y Rhagfynegwr, Yr Arweinydd, Yr Esboniwr, Y Cwestiynwr a'r Crynhowr.

Mae'n bwysig darparu amrywiaeth o ddulliau addysgu i ddatblygu medrau darllen disgyblion gan gynnwys darllen cilyddol. Bydd y dysgwyr yn gweithio fel tîm i ymarfer sgiliau cipddarllen a llithrddarllen, cwestiynu a hunanholi, gwneud casgliadau a phennu pwysigrwydd y wybodaeth. Mae'r llyfrau wedi rhannu i bum thema, gall pob thema fod yn destun un wers neu'n weithgaredd darllen wythnosol. Dyma'r themâu ar gyfer y llyfr Paul Robeson: America ar Ddechrau'r Ugeinfed Ganrif, America yn yr 1930au, Helpu Eraill: Paul Robeson a Chymru, Paul Robeson a Phorthcawl, Ymweliad â Chymru a Dweud dy Ddweud. 

Oeddech chi'n ymwybodol fod ein chwaer Canolfan, Rhagoriaith yn darparu hyfforddiant darllen? Cysylltwch gyda rhagoriaith@pcydds.ac.uk i drefnu hyfforddiant ar gyfer eich gweithle chi.