Trip i'r farchnad
SKU | AAYDTF |
---|---|
ISBN | 9781783902088 |
Pwysau | 140g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Ydych chi wedi bod i'r farchnad i brynu cynnyrch ffres o'r blaen? Beth am fynd am dro i brynu cynhwysion i greu swper blasus? Dw i'n siŵr fyddai Betsan a Roco yn cytuno ei fod yn llawer o hwyl mynd i'r farchnad i siopa! Ond, a oes digon o arian gyda Roco a Betsan i brynu’r cynhwysion ar gyfer paella? Beth yw'r cynhwysion sydd eu hangen ar gyfer coginio paella? Edrychwch ar yr holl liwiau yn y stondin ffrwythau, arogl arbennig y sbeisys amrywiol, a sŵn pawb yn sgwrsio, gwerthu a phrynu.
Mae 'Trip i’r farchnad' yn rhan o gyfres Archwilio’r Amgylchedd yn y dref: Cyfres 2. Cyfresi sy'n dilyn anturiaethau Betsan a Roco wrth iddyn nhw archwilio'r dref yw Archwilio’r Amgylchedd yn y dref. Mae Cyfres 2 yn cynnwys 8 stori neu gerdd gwreiddiol i blant ar Gam Cynnydd 2. Eu nod yw cefnogi gwahanol feysydd dysgu a phrofiad gan ganolbwyntio ar archwilio a darganfod yn yr awyr agored.
Mae'r llyfrau'n cynnig cyfle i godi chwilfrydedd y plant ynghylch eu hamgylchedd yn ogystal â'u hannog i fwynhau drwy archwilio, ymholi, arbrofi, gofyn cwestiynau a cheisio dod o hyd i atebion. Cyfres yw hon sy'n datblygu cyfleoedd i'r plant ddarllen a mynegi eu syniadau, eu safbwyntiau a'u teimladau gan ddangos dychymyg, creadigrwydd a sensitifrwydd tuag at eu hamgylchedd. Os prynwch chi’r gyfres gyflawn, cewch 6 cerdyn her ar gyfer pob llyfr sy'n cynnwys heriau amrywiol y gallech eu defnyddio er mwyn cefnogi'r dysgu ymhellach, gan ddarparu cyfle i ddysgwyr i atgyfnerthu’r sgiliau maent wedi dysgu.

