Cymeriadau Difyr: Arwel Atalnod 3
| SKU | CDGGAAT3 |
|---|---|
| ISBN | 9781783901807 |
| Pwysau | 100g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Ydych chi wedi sylwi ar yr holl ffyrdd gwahanol rydym ni'n gallu dweud 'STOP'! Ond dydy Arwel Atalnod Llawn ddim yn gallu gwneud yr holl bethau rydym ni'n gallu gwneud. Sut mae Arwel Atalnod Llawn yn dweud 'STOP' tybed? Ymunwch gyda ni wrth i ni ddangos sut mae defnyddio atalnod llawn.
Dewch i gwrdd â saith o Gymeriadau Difyr cyfres Glud y Geiriau sy'n cyflwyno elfennau atalnodi i ddysgwyr cam cynnydd 1 trwy amryw gerddi a straeon hwyliog. Mae 21 llyfr yn y gyfres hon yn cyflwyno saith elfen atalnodi mewn ffordd hylaw i ddarllenwyr ifanc. Ceir tri llyfr wedi eu graddoli ar gyfer bob elfen, a phob un yn esbonio rôl yr atalnodi fel y glud sy'n glynu'r geiriau ynghyd. Adnodd gwych ar gyfer dysgwyr 3- 5 oed i'w ddefnyddio yn yr ystafell ddosbarth neu ar gyfer atgyfnerthu'r dysgu yn y cartref.

