Cymeriadau Difyr: Alys Atalnod 2
| SKU | CDGGAA2 |
|---|---|
| ISBN | 9781783901760 |
| Pwysau | 100g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Mae Greta ar ei ffordd i'r siop i brynu blawdmenynwyaucaws! O, dyna beth yw rhestr siopa hir! Fedrwch chi helpu Greta i gofio'r rhestr siopa? Gall Gafin Gofynnod ac Alys Atalnod ei helpu i roi trefn ar y rhestr tybed?
Dewch i gwrdd â saith o Gymeriadau Difyr cyfres Glud y Geiriau sy'n cyflwyno elfennau atalnodi i ddysgwyr cam cynnydd 1 trwy amryw gerddi a straeon hwyliog. Mae 21 llyfr yn y gyfres hon yn cyflwyno saith elfen atalnodi mewn ffordd hylaw i ddarllenwyr ifanc. Ceir tri llyfr wedi eu graddoli ar gyfer bob elfen, a phob un yn esbonio rôl yr atalnodi fel y glud sy'n glynu'r geiriau ynghyd. Adnodd gwych ar gyfer dysgwyr 3- 5 oed i'w ddefnyddio yn yr ystafell ddosbarth neu ar gyfer atgyfnerthu'r dysgu yn y cartref.

