Y Picnic
SKU | CDYP |
---|---|
ISBN | 9781783901692 |
Pwysau | 80g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Mae Sara Sero, Pedr Pedwar a Wali Wyth yn mynd am bicnic. Ymunwch gyda'r tri ffrind wrth iddynt ddatrys problemau rhifedd ar y themâu, lluosi a rhannu, amser ac arian. Dyma lyfr stori a fydd yn herio'r darllenydd i ddefnyddio'i sgiliau rhifedd er mwyn darganfod yr atebion.
Mae adnabod, cyfri a threfnu rhifau i gyd yn rhan o ddysgu gyda phlant 3-5 oed. Mae'r gyfres hon yn cynnwys 21 llyfr stori Cymraeg ar gyfer dysgwyr cam cynnydd 1 ac wedi eu graddoli, ac yn ymestyn o lyfrau sy'n canolbwyntio ar y rhifau unigol o 0 i 10, hyd at destunau mwy heriol megis haneru, dyblu, trefnolion a llyfrau datrys problemau. Mae pob llyfr yn canolbwyntio ar gymeriad rhif, ac yn gymorth i hybu adnabyddiaeth plant o rifolion penodol mewn ffordd hwyliog a chyffrous. Adnodd gwych ar gyfer yr ystafell ddosbarth neu ar gyfer atgyfnerthu'r dysgu yn y cartref.

