Trefnolion

SKUCDT
ISBN9781783901647
Pwysau150g
Pris rheolaidd £2.99
Pris rheolaidd £2.99 Pris arbennig £2.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Mae'r ffair wedi dod i Stryd y Rhifau ac mae'r rhifau wedi cyffroi'n lân. Ymunwch gyda Cati Chwech, Sami Saith a Nia Naw wrth i'r tri wylio ras, ond nid ras arferol mo'r ras hon. Pwy ddaw yn gyntaf, ail a thrydydd tybed? Ydych chi'n hoffi rasio? Dyma lyfr sy'n cyflwyno trefnolion i blant a hynny ar ffurf stori hwyliog!

Mae adnabod, cyfri a threfnu rhifau i gyd yn rhan o ddysgu gyda phlant 3-5 oed. Mae'r gyfres hon yn cynnwys 21 llyfr stori Cymraeg ar gyfer dysgwyr cam cynnydd 1 ac wedi eu graddoli, ac yn ymestyn o lyfrau sy'n canolbwyntio ar y rhifau unigol o 0 i 10, hyd at destunau mwy heriol megis haneru, dyblu, trefnolion a llyfrau datrys problemau. Mae pob llyfr yn canolbwyntio ar gymeriad rhif, ac yn gymorth i hybu adnabyddiaeth plant o rifolion penodol mewn ffordd hwyliog a chyffrous. Adnodd gwych ar gyfer yr ystafell ddosbarth neu ar gyfer atgyfnerthu'r dysgu yn y cartref.