Drych Dilys Deg
SKU | CDDCHDD |
---|---|
ISBN | 9781783901623 |
Pwysau | 150g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Mae Dilys Deg yn llawn cyffro heddiw, mae rhywbeth arbennig iawn wedi cyrraedd yn y post, beth sydd yn y parsel tybed? Cyn hir mae pawb ar Stryd y Rhifau wedi clywed am barsel arbennig Dilys Deg. Ymunwch gyda Dilys Deg a'i ffrindiau wrth iddyn nhw i gymryd tro i weld beth yn union sydd yn y parsel. Mae'r stori hon yn cyflwyno adio unedau at ddeg er mwyn creu rhif newydd.
Mae adnabod, cyfri a threfnu rhifau i gyd yn rhan o ddysgu gyda phlant 3-5 oed. Mae'r gyfres hon yn cynnwys 21 llyfr stori Cymraeg ar gyfer dysgwyr cam cynnydd 1 ac wedi eu graddoli, ac yn ymestyn o lyfrau sy'n canolbwyntio ar y rhifau unigol o 0 i 10, hyd at destunau mwy heriol megis haneru, dyblu, trefnolion a llyfrau datrys problemau. Mae pob llyfr yn canolbwyntio ar gymeriad rhif, ac yn gymorth i hybu adnabyddiaeth plant o rifolion penodol mewn ffordd hwyliog a chyffrous. Adnodd gwych ar gyfer yr ystafell ddosbarth neu ar gyfer atgyfnerthu'r dysgu yn y cartref.

