Odrifau ac Eilrifau
SKU | CDOE |
---|---|
ISBN | 9781783901616 |
Pwysau | 150g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Hwrê! Mae diwrnod y gêm bêl-droed fawr rhwng yr Odrifau a'r Eilrifau wedi cyrraedd! Mae pawb sy'n byw ar Stryd y Rhifau'n mynd i weld y gêm. Mae pawb wrth eu boddau gyda phêl-droed. Pwy fydd yn cefnogi pa dîm tybed? Ymunwch â chymdogion Stryd y Rhifau er mwyn dysgu mwy am odrifau ac eilrifau.
Mae adnabod, cyfri a threfnu rhifau i gyd yn rhan o ddysgu gyda phlant 3-5 oed. Mae'r gyfres hon yn cynnwys 21 llyfr stori Cymraeg ar gyfer dysgwyr cam cynnydd 1 ac wedi eu graddoli, ac yn ymestyn o lyfrau sy'n canolbwyntio ar y rhifau unigol o 0 i 10, hyd at destunau mwy heriol megis haneru, dyblu, trefnolion a llyfrau datrys problemau. Mae pob llyfr yn canolbwyntio ar gymeriad rhif, ac yn gymorth i hybu adnabyddiaeth plant o rifolion penodol mewn ffordd hwyliog a chyffrous. Adnodd gwych ar gyfer yr ystafell ddosbarth neu ar gyfer atgyfnerthu'r dysgu yn y cartref.

