Dilys Deg
SKU | CDDDG |
---|---|
ISBN | 9781783901579 |
Pwysau | 150g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Mae'n ddiwrnod arbennig i Dilys Deg heddiw! Mae hi'n ddeg oed ac mae'n cael parti! Ymuwch gyda Dilys Deg a'i holl ffrindiau o Stryd y Rhifau wrth iddyn nhw ddathlu ei phenblwydd. Ydych chi'n cofio sut mae gwneud deg? Mae adnabod, cyfri a threfnu rhifau i gyd yn rhan o ddysgu gyda phlant 3-5 oed.
Mae'r gyfres hon yn cynnwys 21 llyfr stori Cymraeg ar gyfer dysgwyr cam cynnydd 1 ac wedi eu graddoli, ac yn ymestyn o lyfrau sy'n canolbwyntio ar y rhifau unigol o 0 i 10, hyd at destunau mwy heriol megis haneru, dyblu, trefnolion a llyfrau datrys problemau. Mae pob llyfr yn canolbwyntio ar gymeriad rhif, ac yn gymorth i hybu adnabyddiaeth plant o rifolion penodol mewn ffordd hwyliog a chyffrous. Adnodd gwych ar gyfer yr ystafell ddosbarth neu ar gyfer atgyfnerthu'r dysgu yn y cartref.

