Nia Naw

SKUCDNN
ISBN9781783901562
Pwysau150g
Pris rheolaidd £2.99
Pris rheolaidd £2.99 Pris arbennig £2.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Dydy Nia Naw ddim yn un i dacluso! Mae ei chartref yn rhif 9, Stryd y Rhifau yn flêr ar y naw! Mae angen help arni i dacluso ei thŷ. Pwy o griw Stryd y Rhifau fydd yn galw draw i'w helpu tybed? Ymunwch gyda Nia Naw wrth iddi dacluso, tybed beth fyddwch chi'n ei ddarganfod! Mae adnabod, cyfri a threfnu rhifau i gyd yn rhan o ddysgu gyda phlant 3-5 oed.

Mae'r gyfres hon yn cynnwys 21 llyfr stori Cymraeg ar gyfer dysgwyr cam cynnydd 1 ac wedi eu graddoli, ac yn ymestyn o lyfrau sy'n canolbwyntio ar y rhifau unigol o 0 i 10, hyd at destunau mwy heriol megis haneru, dyblu, trefnolion a llyfrau datrys problemau. Mae pob llyfr yn canolbwyntio ar gymeriad rhif, ac yn gymorth i hybu adnabyddiaeth plant o rifolion penodol mewn ffordd hwyliog a chyffrous. Adnodd gwych ar gyfer yr ystafell ddosbarth neu ar gyfer atgyfnerthu'r dysgu yn y cartref.