Wali Wyth
SKU | CDWW |
---|---|
ISBN | 9781783901555 |
Pwysau | 150g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Beth am fynd am dro gyda Wali Wyth a'i ffrindiau Sami Saith a Nia Naw i'r parc. Mae pawb yn hoffi'r parc! Beth fydd y tri yn gweld yna tybed, ydych chi'n hoffi dringo coed fel Wali Wyth? Sawl 8 ydych chi'n gweld o'ch cwmpas? Camwch i fyd y Cymeriadau Difyr wrth iddynt eich tywys trwy Stryd y Rhifau gyda straeon sy'n cyflwyno gwahanol agweddau ar rifedd.
Mae adnabod, cyfri a threfnu rhifau i gyd yn rhan o ddysgu gyda phlant 3-5 oed. Mae'r gyfres hon yn cynnwys 21 llyfr stori Cymraeg ar gyfer dysgwyr cam cynnydd 1 ac wedi eu graddoli, ac yn ymestyn o lyfrau sy'n canolbwyntio ar y rhifau unigol o 0 i 10, hyd at destunau mwy heriol megis haneru, dyblu, trefnolion a llyfrau datrys problemau. Mae pob llyfr yn canolbwyntio ar gymeriad rhif, ac yn gymorth i hybu adnabyddiaeth plant o rifolion penodol mewn ffordd hwyliog a chyffrous. Adnodd gwych ar gyfer yr ystafell ddosbarth neu ar gyfer atgyfnerthu'r dysgu yn y cartref.

