Sami Saith
SKU | CDSS-7 |
---|---|
ISBN | 9781783901548 |
Pwysau | 150g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Garddio yw un o hoff bethau Sami Saith, mae wrth ei fodd yn yr ardd. Plannu hadau, moron, mintys a blodau gyda'i ffrind Wali Wyth. Ydych chi'n hoffi plannu pethau yn yr ardd? Ymunwch gyda Sami Saith i weld a faint o bethau sydd wedi tyfu i gyd. Mae adnabod, cyfri a threfnu rhifau i gyd yn rhan o ddysgu gyda phlant 3-5 oed.
Mae'r gyfres hon yn cynnwys 21 llyfr stori Cymraeg ar gyfer dysgwyr cam cynnydd 1 ac wedi eu graddoli, ac yn ymestyn o lyfrau sy'n canolbwyntio ar y rhifau unigol o 0 i 10, hyd at destunau mwy heriol megis haneru, dyblu, trefnolion a llyfrau datrys problemau. Mae pob llyfr yn canolbwyntio ar gymeriad rhif, ac yn gymorth i hybu adnabyddiaeth plant o rifolion penodol mewn ffordd hwyliog a chyffrous. Adnodd gwych ar gyfer yr ystafell ddosbarth neu ar gyfer atgyfnerthu'r dysgu yn y cartref.

