Poli Pump

SKUCDPOP
ISBN9781783901524
Pwysau150g
Pris rheolaidd £2.99
Pris rheolaidd £2.99 Pris arbennig £2.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Ydych chi erioed wedi gweld rhif mor ffasiynol â Poli Pump! Mae'n disgleirio gyda'r holl dlysau mae'n ei gwisgo! Mae pawb eisiau bod yn ffrind i Poli Pump! Mae wrth ei bodd hefyd yn rapio, hoffech chi fedru rapio fel Poli? Dysgwch mwy am Poli Pump a'i ffrindiau yn y stori hon. Camwch i fyd y Cymeriadau Difyr wrth iddynt eich tywys trwy Stryd y Rhifau gyda straeon sy'n cyflwyno gwahanol agweddau ar rifedd.

Mae adnabod, cyfri a threfnu rhifau i gyd yn rhan o ddysgu gyda phlant 3-5 oed. Mae'r gyfres hon yn cynnwys 21 llyfr stori Cymraeg ar gyfer dysgwyr cam cynnydd 1 ac wedi eu graddoli, ac yn ymestyn o lyfrau sy'n canolbwyntio ar y rhifau unigol o 0 i 10, hyd at destunau mwy heriol megis haneru, dyblu, trefnolion a llyfrau datrys problemau. Mae pob llyfr yn canolbwyntio ar gymeriad rhif, ac yn gymorth i hybu adnabyddiaeth plant o rifolion penodol mewn ffordd hwyliog a chyffrous. Adnodd gwych ar gyfer yr ystafell ddosbarth neu ar gyfer atgyfnerthu'r dysgu yn y cartref.