Pedr Pedwar

SKUCDPP
ISBN9781783901517
Pwysau150g
Pris rheolaidd £2.99
Pris rheolaidd £2.99 Pris arbennig £2.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Ydych chi'n gwybod pwy yw cymdogion Pedr Pedwar ar Stryd y Rhifau? Mae Pedr Pedwar wrth ei fodd yn chwarae gemau ar y sgrin gyda'i ffrindiau. Ymunwch â Pedr Pedwar, Twm Tri a Poli Pump wrth i'r tri fwynhau cwmni ei gilydd. Mae Pedr Pedwar yn dda iawn yn chwarae gemau. Tybed pa rifau fedrwch chi eu gweld yn y stori hon. Mae adnabod, cyfri a threfnu rhifau i gyd yn rhan o ddysgu gyda phlant 3-5 oed.

Mae'r gyfres hon yn cynnwys 21 llyfr stori Cymraeg ar gyfer dysgwyr cam cynnydd 1 ac wedi eu graddoli, ac yn ymestyn o lyfrau sy'n canolbwyntio ar y rhifau unigol o 0 i 10, hyd at destunau mwy heriol megis haneru, dyblu, trefnolion a llyfrau datrys problemau. Mae pob llyfr yn canolbwyntio ar gymeriad rhif, ac yn gymorth i hybu adnabyddiaeth plant o rifolion penodol mewn ffordd hwyliog a chyffrous. Adnodd gwych ar gyfer yr ystafell ddosbarth neu ar gyfer atgyfnerthu'r dysgu yn y cartref.