Twm Tri
SKU | CDTT |
---|---|
ISBN | 9781783901500 |
Pwysau | 150g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Mae Twm Tri yn hapus iawn, mae'n cael mynd gyda'i ffrindiau, Deio Dau a Pedr Pedwar i wylio ei hoff dîm, yr Odrifau yn chwarae pêl-droed. Mae Twm Tri wrth ei fodd â phêl-droed. Ymunwch gyda Twm Tri ar ei ddiwrnod arbennig! Sawl rhif 3 gallwch chi weld yn y stori hon? Camwch i fyd y Cymeriadau Difyr wrth iddynt eich tywys trwy Stryd y Rhifau gyda straeon sy'n cyflwyno gwahanol agweddau ar rifedd.
Mae adnabod, cyfri a threfnu rhifau i gyd yn rhan o ddysgu gyda phlant 3-5 oed. Mae'r gyfres hon yn cynnwys 21 llyfr stori Cymraeg ar gyfer dysgwyr cam cynnydd 1 ac wedi eu graddoli, ac yn ymestyn o lyfrau sy'n canolbwyntio ar y rhifau unigol o 0 i 10, hyd at destunau mwy heriol megis haneru, dyblu, trefnolion a llyfrau datrys problemau. Mae pob llyfr yn canolbwyntio ar gymeriad rhif, ac yn gymorth i hybu adnabyddiaeth plant o rifolion penodol mewn ffordd hwyliog a chyffrous. Adnodd gwych ar gyfer yr ystafell ddosbarth neu ar gyfer atgyfnerthu'r dysgu yn y cartref.

