Deio Dau

SKUCDDD
ISBN9781783901494
Pwysau100g
Pris rheolaidd £2.99
Pris rheolaidd £2.99 Pris arbennig £2.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Mae'n ddiwrnod cyffrous ar Stryd y Rhifau heddiw, mae'n bwrw eira! Ymunwch â Deio Dau wrth iddo baratoi i fynd allan i chwarae yn yr eira gydag Alun Un, ond beth sydd ei angen arno er mwyn cadw'n gynnes? Mae adnabod, cyfri a threfnu rhifau i gyd yn rhan o ddysgu gyda phlant 3-5 oed.

Mae'r gyfres hon yn cynnwys 21 llyfr stori Cymraeg ar gyfer dysgwyr cam cynnydd 1 ac wedi eu graddoli, ac yn ymestyn o lyfrau sy'n canolbwyntio ar y rhifau unigol o 0 i 10, hyd at destunau mwy heriol megis haneru, dyblu, trefnolion a llyfrau datrys problemau. Mae pob llyfr yn canolbwyntio ar gymeriad rhif, ac yn gymorth i hybu adnabyddiaeth plant o rifolion penodol mewn ffordd hwyliog a chyffrous.  Adnodd gwych ar gyfer yr ystafell ddosbarth neu ar gyfer atgyfnerthu'r dysgu yn y cartref.