Cymeriadau Difyr: Stryd y Rhifau
| SKU | CDSyRh |
|---|---|
| ISBN | 9781783901463 |
| Pwysau | 2300g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Camwch i fyd y Cymeriadau Difyr wrth iddynt eich tywys trwy Stryd y Rhifau gyda'u straeon sy'n cyflwyno gwahanol agweddau ar rifedd. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys holl lyfrau'r gyfres ar ffurf dilyniant. Ceir 21 llyfr stori Cymraeg ar gyfer dysgwyr cam cynnydd 1 wedi eu graddoli, ac yn ymestyn o lyfrau sy'n canolbwyntio ar y rhifau unigol o 0 i 10, hyd at destunau mwy heriol megis haneru, dyblu, trefnolion a llyfrau datrys problemau.
Mae'r pecyn hwn yn cynnig cyfleoedd i fathemategwyr mentrus fagu hyder wrth iddynt feddwl yn fathemategol gan ddefnyddio cysyniadau rhifedd amrywiol mewn ymateb i broblemau yn y byd go iawn. Mae pob llyfr yn canolbwyntio ar gymeriad rhif, ac yn gymorth i hybu adnabyddiaeth plant o rifolion penodol mewn ffordd hwyliog a chyffrous. Adnodd gwych ar gyfer yr ystafell ddosbarth neu ar gyfer atgyfnerthu'r dysgu yn y cartref.
