Dawns a Chreu
SKU | DaCh |
---|---|
ISBN | 9781783901449 |
Pwysau | 550g |
Dyma adnodd sy'n cynnig cyfleoedd i blant ymateb yn gorfforol drwy ystum, ddawns, meim a chân i ystod o ysgogiadau; yn gerddoriaeth, yn stori, neu'n gerdd, er mwyn meithrin a datblygu eu sgiliau corfforol, creadigol, llythrennedd, a hyrwyddo a chymell eu hunan hyder.
Mae'r deunyddiau'n cyfrannu at:
· annog plant i ddefnyddio'u meddwl, dychymyg a'u synhwyrau mewn ffordd greadigol
· hyrwyddo hyder, cymhelliant a hunan-werth
· cymell ffocysu a chanolbwyntio
· annog plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol a mynegiannol
· hybu gweithio fel unigolyn, gyda phartner neu mewn grwpiau bach.
Ceir tasg ffocws ar bob carden, sydd yn gysylltiedig â'r sbardun, a chyflwynir symudiadau, geirfa, a theimladau i gyd-fynd â'r sbardun a'r gweithgaredd, yn ogystal â syniadau am weithgareddau pellach.
Cefnogir yr adnodd gan ddeunydd atodol, enghreifftiol, sydd ar gael ar Hwb.
Dawns a Chreu: cefnogi creadigrwydd yn y Cyfnod Sylfaen.