Wyt ti'n Gwybod? Siop y Fferm

SKUWTGSYFf
ISBN9781783901357
Pwysau80g
Pris rheolaidd £2.99
Pris rheolaidd £2.99 Pris arbennig £2.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Beth am ddefnyddio'r llyfr hwn fel sbardun ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Amaethyddiaeth ar 12 Hydref? Mae'n bwysig addysgu o ble mae bwyd yn dod, boed o'r anifail neu o blanhigion. Darllenwch y llyfr hwn i weld Mam yn dysgu Noa a Nima o ble daw'r holl gynnyrch.

Beth am fynd i'r farchnad i brynu ffrwythau a llysiau i'w mwynhau, a thrafod o ble mae popeth wedi dod. Ydych chi wedi ymweld â fferm o'r blaen? Beth am fynd i weld gwartheg yn cael eu godro a blasu llaeth ffres? Dyma sbardun perffaith ar gyfer gweithgareddau rhifedd yn seiliedig ar bump o lysiau a ffrwythau'r dydd.

Cliciwch yma i fynd i'r Digwyddiadur ar ein gwefan, sy'n nodi llu o ddigwyddiadau blynyddol lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, a syniadau am lyfrau ac adnoddau i gyd-fynd â'r themâu hyn er mwyn cyfoethogi'r dysgu. 

Anogwch eich dysgwyr i chwilota am ffeithiau diddorol yn y gyfres addysgiadol hon, 'Wyt ti'n Gwybod?' Mae'r llyfrau'n addas ar gyfer Cam Cynnydd 2. Eu nod yw ehangu gwybodaeth gan gryfhau sgiliau darllen dysgwyr mewn ffordd naturiol a hwyliog. Mae'r llyfrau hefyd yn addas i ddatblygu sgiliau llafar a thrafod y dysgwyr. Gallwch ddefnyddio'r llyfrau fel sbardun yn y dosbarth neu ar gyfer tasg grŵp, neu eu defnyddio yn y cartref i addysgu mwy am thema benodol. 

Gwybodaeth ychwanegol

Maint (mm)210 x 150 x 5