Wyt ti'n Gwybod? Yn yr Ardd
SKU | WTGYYA |
---|---|
ISBN | 9781783901340 |
Pwysau | 80g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Mae'n fis Cenedlaethol Garddio yn mis Ebrill. Beth am ddarllen y llyfr yma gyda'ch dysgwyr er mwyn i Noa ddysgu beth sydd angen ei wneud i gael gardd hyfryd, llawn blodau lliwgar? Cyfrwch sawl cam gwahanol sydd angen eu cymryd er mwyn tyfu blodau. Ydych chi'n gwybod beth sydd angen ei wneud er mwyn paratoi'r ardd? Cadwch lygad ar y cŵn, maen nhw'n mwynhau mynd i dwrio rhwng y blodau!
Cliciwch yma i fynd i'r Digwyddiadur ar ein gwefan, sy'n nodi llu o ddigwyddiadau blynyddol lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, a syniadau am lyfrau ac adnoddau i gyd-fynd â'r themâu hyn er mwyn cyfoethogi'r dysgu.
Anogwch eich dysgwyr i chwilota am ffeithiau diddorol yn y gyfres addysgiadol hon, 'Wyt ti'n Gwybod?' Mae'r llyfrau'n addas ar gyfer diwedd Cam Cynnydd 1 a Cham Cynnydd 2. Eu nod yw ehangu gwybodaeth gan gryfhau sgiliau darllen dysgwyr mewn ffordd naturiol a hwyliog. Mae'r llyfrau hefyd yn addas i ddatblygu sgiliau llafar a thrafod y dysgwyr. Gallwch ddefnyddio'r llyfrau fel sbardun yn y dosbarth neu ar gyfer tasg grŵp, neu eu defnyddio yn y cartref i addysgu mwy am thema benodol.

