Wyt ti'n Gwybod? Yr Enfys

SKUWTGYE
ISBN9781783901319
Pwysau0g
Pris rheolaidd £2.99
Pris rheolaidd £2.99 Pris arbennig £2.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Coch a melyn a phinc a gwyrdd, porffor ac oren a glas... Mae lliwiau'r enfys yn hyfryd! Beth yw eich hoff liw? Tybed sut mae enfys yn cael ei chreu? Darllenwch y llyfr yma i ddysgu mwy.

Oeddech chi'n gwybod bod sawl anifail lliwgar dros ben yn byw ar y blaned hon? Madfall amryliw, pysgodyn yr enfys ... ewch i gael cipolwg ar y llyfr i weld pa anifeiliaid eraill sy'n cynnwys lliwiau'r enfys! Beth am i chi wneud arbrawf y blodau i weld a allwch chi gael blodau lliwiau'r enfys?

Anogwch eich dysgwyr i chwilota am ffeithiau diddorol yn y gyfres addysgiadol hon, 'Wyt ti'n Gwybod?' Mae'r llyfrau'n addas ar gyfer diwedd Cam Cynnydd 1 a Cham Cynnydd 2. Eu nod yw ehangu gwybodaeth gan gryfhau sgiliau darllen dysgwyr mewn ffordd naturiol a hwyliog. Mae'r llyfrau hefyd yn addas i ddatblygu sgiliau llafar a thrafod y dysgwyr. Gallwch ddefnyddio'r llyfrau fel sbardun yn y dosbarth neu ar gyfer tasg grŵp, neu eu defnyddio yn y cartref i addysgu mwy am thema benodol.