Wyt ti'n Gwybod? Yn y Jyngl

SKUWTGYYJ
ISBN9781783901302
Pwysau80g
Pris rheolaidd £2.99
Pris rheolaidd £2.99 Pris arbennig £2.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Mae'n ddiwrnod Rhyngwladol Coediwgoedd ar 21 Mawrth bob blwyddyn. Ydych chi'n gwybod pa anifeiliaid sy'n byw yn y goedwig? Pa anifeiliaid sydd wedi ymgartrefu yn y jyngl? Darllenwch y llyfr yma i weld pob math o anifeiliaid unigryw!

Mae yna liwiau anhygoel ar bigau adar fel parotiaid. Beth am fynd ati i ailgreu parot lliwgar yn defnyddio deunyddiau amrywiol? Tybed sawl math o fwnci gwahanol sydd i'w cael? Ydych chi'n gwybod? Ewch ati i wneud ychydig o waith ymchwil ar y mwncïod sydd yn y llyfr.

Cliciwch yma i fynd i'r Digwyddiadur ar ein gwefan, sy'n nodi llu o ddigwyddiadau blynyddol lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, a syniadau am lyfrau ac adnoddau i gyd-fynd â'r themâu hyn er mwyn cyfoethogi'r dysgu.

Anogwch eich dysgwyr i chwilota am ffeithiau diddorol yn y gyfres addysgiadol hon, 'Wyt ti'n Gwybod?' Mae'r llyfrau'n addas ar gyfer diwedd Cam Cynnydd 1 a Cham Cynnydd 2. Eu nod yw ehangu gwybodaeth gan gryfhau sgiliau darllen dysgwyr mewn ffordd naturiol a hwyliog. Mae'r llyfrau hefyd yn addas i ddatblygu sgiliau llafar a thrafod y dysgwyr. Gallwch ddefnyddio'r llyfrau fel sbardun yn y dosbarth neu ar gyfer tasg grŵp, neu eu defnyddio yn y cartref i addysgu mwy am thema benodol.