Wyt ti'n Gwybod? Teithio
SKU | WTGTTH |
---|---|
ISBN | 9781783901272 |
Pwysau | 80g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Beth yw eich hoff ddull o deithio ar hyd yr heol? Beth am eich hoff ddull o deithio ar y dŵr? Mae amryw o ddulliau o deithio, ac mae gan sawl gwlad ddull arbennig ac unigryw o fynd o un lle i'r llall. Trafodwch sut mae eu cerbydau'n debyg ac yn wahanol i'r hyn sydd gyda ni yma yng Nghymru. Oeddech chi'n gwybod ei bod hi'n Ddiwrnod Cenedlaethol Twristiaeth ar 7 Mai!
Cliciwch yma i fynd i'r Digwyddiadur ar ein gwefan, sy'n nodi llu o ddigwyddiadau blynyddol lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, a syniadau am lyfrau ac adnoddau i gyd-fynd â'r themâu hyn er mwyn cyfoethogi'r dysgu.
Anogwch eich dysgwyr i chwilota am ffeithiau diddorol yn y gyfres addysgiadol hon, 'Wyt ti'n Gwybod?' Mae'r llyfrau'n addas ar gyfer Cam Cynnydd 2. Eu nod yw ehangu gwybodaeth gan gryfhau sgiliau darllen dysgwyr mewn ffordd naturiol a hwyliog. Mae'r llyfrau hefyd yn addas i ddatblygu sgiliau llafar a thrafod y dysgwyr. Gallwch ddefnyddio'r llyfrau fel sbardun yn y dosbarth neu ar gyfer tasg grŵp, neu eu defnyddio yn y cartref i addysgu mwy am thema benodol.

