Wyt ti'n Gwybod? Pwy biau'r got
SKU | WTGPBG |
---|---|
ISBN | 9781783901241 |
Pwysau | 80g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Tybed sut mae'r defaid yn teimlo yn ystod y tymhorau gwahanol? Dyma lyfr sy'n addysgu'r dysgwyr am gamau gwlân y ddafad o'r sach i'r lori, ac o'r lori i'r chwalu, cribo a throelli. Tybed pa liw fydd y gwlân erbyn diwedd y llyfr?
Anogwch eich dysgwyr i chwilota am ffeithiau diddorol yn y gyfres addysgiadol hon, 'Wyt ti'n Gwybod?' Mae'r llyfrau'n addas ar gyfer diwedd Cam Cynnydd 1 a Cham Cynnydd 2. Eu nod yw ehangu gwybodaeth gan gryfhau sgiliau darllen dysgwyr mewn ffordd naturiol a hwyliog. Mae'r llyfrau hefyd yn addas i ddatblygu sgiliau llafar a thrafod y dysgwyr. Gallwch ddefnyddio'r llyfrau fel sbardun yn y dosbarth neu ar gyfer tasg grŵp, neu eu defnyddio yn y cartref i addysgu mwy am thema benodol.

