Wyt ti'n Gwybod? Pinci
SKU | WTGP |
---|---|
ISBN | 9781783901234 |
Pwysau | 80g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Ydych chi wedi gweld crwban o'r blaen? Beth am ddod i gyfarfod â Pinci? Mae crwbanod yn mynd i gysgu dros y gaeaf, felly roedd Nima yn edrych ymlaen at fis Mawrth er mwyn gweld Pinci unwaith yn rhagor. Tybed beth mae crwbanod yn eu bwyta? Darllenwch y llyfr yma i ddysgu mwy.
Anogwch eich dysgwyr i chwilota am ffeithiau diddorol yn y gyfres addysgiadol hon, 'Wyt ti'n Gwybod?' Mae'r llyfrau'n addas ar gyfer Cam Cynnydd 2. Eu nod yw ehangu gwybodaeth gan gryfhau sgiliau darllen dysgwyr mewn ffordd naturiol a hwyliog. Mae'r llyfrau hefyd yn addas i ddatblygu sgiliau llafar a thrafod y dysgwyr. Gallwch ddefnyddio'r llyfrau fel sbardun yn y dosbarth neu ar gyfer tasg grŵp, neu eu defnyddio yn y cartref i addysgu mwy am thema benodol.

